Yr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol
22–26 Gorffennaf 2019
Prifysgol Bangor
Y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yw’r prif gynulliad rhyngwladol ar gyfer ysgolheigion sy’n ymchwilio i ieithoedd, llenyddiaethau a thraddodiadau diwylliannol y bobloedd hynny sydd ac a fu’n siarad ieithoedd Celtaidd. Fe’i cynhelir bob pedair blynedd ac mae’n cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd – sy’n cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf – i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd.
Cynhelir yr XVIeg Gyngres ym Mhrifysgol Bangor, Cymru, ar 22–26 Gorffennaf 2019.
Newyddion
- Y Celtiaid ar eu ffordd! Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu Cyngres Ryngwladol
8 Gorffennaf 2019 - Arddangosfa: Astudiaethau Celtaidd ym Mangor
7 Mehefin 2019 - Cofrestru'n agor ar 3 Ebrill 2019!
2 Ebrill 2019 - Darllenwch yr holl newyddion
Cofrestru
Mae’r prisiau fel a ganlyn:
Mae ‘hanner wythnos’ yn golygu Llun–Mercher neu Mercher–Gwener (ar y dydd Mercher cynhelir teithiau’r Gyngres).
Wythnos
- Pris llawn: £230
- Myfyriwr: £155
- Cydymaith: £70
Hanner wythnos
- Pris llawn: £160
- Myfyriwr: £90
- Cydymaith: £50