Arddangosfa: Astudiaethau Celtaidd ym Mangor

Arddangosfa: Astudiaethau Celtaidd ym Mangor

I gyd-fynd ag ymweliad yr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol â Phrifysgol Bangor ar 22–26 Gorffennaf 2019 mae’r arddangosfa Astudiaethau Celtaidd ym Mangor wedi agor.

Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o gyfraniad sylweddol Prifysgol Bangor i ysgolheictod ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac mae hefyd yn ymdrech i goffáu rhai o’r unigolion rhyfeddol a gyfrannodd tuag at y gwaith hwnnw.

Er i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru agor ei ddrysau ym Mangor ym 1884, nid tan 1889 y penodwyd John Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg. Ond digon anaddawol oedd y dechreuadau. Ni ddaeth ond chwech o swyddogion y Coleg, dau fyfyriwr a dau ddieithryn i’w ddarlith agoriadol. Llesteiriwyd twf y ddisgyblaeth hefyd gan y ffaith mai paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau allanol Prifysgol Llundain a wnâi Bangor ac ni chydnabyddai’r brifysgol honno na Chymraeg na Chelteg fel pynciau gradd. Yn sgil estyn Siarter Frenhinol i Brifysgol Cymru yn 1893, a phenodi Morris-Jones yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn 1895, cafodd statws ei ddisgyblaeth ei drawsnewid yn gyflym. O hynny allan, daeth Bangor yn un o brif ganolfannau ysgolheictod y Gymraeg. Bu Prifysgol Bangor yn ffodus hefyd o’r casgliadau llawysgrifol a phrintiedig yn ei llyfrgell ac mae’r arddangosfa, yn ei chyfanrwydd, yn tystio i gyfoeth ac ehangder y casgliadau hynny ym maes y Gymraeg a Chelteg.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019