Y Celtiaid ar eu ffordd! Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu Cyngres Ryngwladol

Rhwng 22 – 26 Gorffennaf, bydd Prifysgol Bangor yn croesawu’r XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, gyda siaradwyr gwadd o bob cwr o'r byd yn cyfrannu at raglen yn llawn trafodaethau, seminarau a theithiau maes.

Mae'r Gyngres, a gynhelir unwaith bob pedair blynedd, yn brif fforwm rhyngwladol ar gyfer arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd a bydd ymweliad cyntaf y Gyngres â Bangor yn ddigwyddiad nodedig i'r sefydliad. Hyd yn hyn, mae cynrychiolwyr o ddim llai na 25 o wledydd, yn cynrychioli dros 100 o gyrff a sefydliadau academaidd, wedi cofrestru i fynychu'r Gyngres ym Mangor. Mae’r Gyngres ym Mangor wedi derbyn nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cynhaliwyd y Gynres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol gyntaf yn Nulyn yn 1959, ac ers hynny mae wedi datblygi i fod y gynhadledd academaidd fwyaf a neilltuwyd yn gyfan gwbl i Astudiaethau Celtaidd. Mae'r Gyngres yn parhau i gynnig cyfleoedd heb eu ail i bawb sy'n gweithio yn y maes, boed yn ysgolheigion profiadol neu'n fyfyrwyr ymchwil newydd, i gyfarfod a rhannu a thrafod ffrwyth eu hymchwil.

Y prif siaradwyr yn y Gyngres ym Mangor fydd:

Katherine Forsyth

Mae Katherine, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Glasgow, wedi cyhoeddi ar amryfal agweddau yn ymwneud â’r Pictiaid ac ar gerflunwaith ac arysgrifau yn yr Alban ac Iwerddon, a hynny ar sail gwaith maes yno ynghyd ag ar Ynys Manaw ac yn Llydaw. Mae ei hymchwil yn ymdrin â thestunau fel rhan o ddiwylliant materol ac ysgrifennu fel gweithred gymdeithasol a diwylliannol. Mae ganddi ddiddordeb neilltuol yn nharddiad a datblygiad yr wyddor ogam ac yn system symbolau’r Pictiaid. Ar hyn o bryd mae’n arwain prosiect o’r enw Spoken Here: Mapping Gaelic Glasgow, sy’n ymwneud â’r cyhoedd ac yn archwilio treftadaeth Aeleg y ddinas. Teitl ei darlith fydd ‘Feelin’ Groovy: Interdisciplinary perspective on the origin, nature, and uses of the ogham script’.

Juan-Luis García-Alonso

Mae Juan-Luis wedi bod yn Athro Groeg yn Adran Ieitheg Glasurol Prifysgol Salamanca er 2002. Ar hyn o bryd, Juan-Luis yw Prif Ymchwilydd y prosiect Erasmus+ KA2 CBHE XCELING (Tuag at Ragoriaeth mewn Ieithyddiaeth Gymwysiedig), 2017-2020, ac er 2012 y mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Golygyddol y cyfnodolyn Minos. Mae’n arbenigwr blaenllaw ym maes ieithyddiaeth hanesyddol a chymharol a theitl ei ddarlith ef yw ‘From pre-Indo-European to Proto-Celtic and beyond: Some of the Possible Phonetic and Phonemic Effects of Language Shifts in Central, Southern and Western Europe’.

Rióna Ní Fhrighil

Mae Rióna’n ddarlithydd mewn llenyddiaeth Wyddeleg gyfoes ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway. Hi yw awdur Briathra, Béithe agus Banfhilí (An Clóchomhar, 2008), sef astudiaeth gymharol o farddoniaeth Nuala Ní Dhomhnaill ac Eavan Boland. Mae hefyd yn gyd-gyfarwyddwr y prosiect amlddisgyblaethol Aistriú: crossing territories, languages and artforms sy’n cael ei ariannu fel rhan o raglen Galway yn Brifddinas Diwylliannol Ewrop (2020). Bydd ei chyflwyniad hi – ‘Writer as righter? Irish-language poetry and human rights ideals’ – yn cynnig cipolygon rhyngddisgyblaethol ar lenyddiaeth Wyddeleg gyfoes. 

Ailbhe Ó Corráin

Ganed Ailbhe Ó Corráin ym Melffast a’i addysgu yng Ngholeg Sant Malachi a Phrifysgol y Frenhines Belffast. Y mae’n Athro Emeritus mewn Gwyddeleg ym Mhrifysgol Wlster ac yn gyn-Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Gwyddeleg ac Astudiaethau Celtaidd, Derry. Mae’n Gadeirydd Éigse Cholm Cille a bu gynt yn aelod o Fwrdd Rheoli Ysgol Astudiaethau Celtaidd Canolfan Uwchefrydiau Dulyn. Bydd ei ddarlith, ‘The Hounds of Love: Courtship and Conception in Irish Bardic Poetry’, yn cynnig safbwynt newydd ar sut y cafodd barddoniaeth Wyddeleg ei chreu a’i llunio.

Siwan Rosser

Mae Siwan yn Uwch-Ddarlithydd a Dirprwy Bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ennill graddau MPhil a PhD yno am astudiaethau beirniadol ar lenyddiaeth boblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ffrwyth y prosiectau ymchwil hynny yw ei chyfrolau ar Y Ferch ym Myd y Faled (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005) a Jonathan Hughes: Bardd Pengwern (Barddas, 2007). Bellach, mae gwaith ymchwil Siwan yn canolbwyntio ar y modd y mae plentyndod, rhywedd a chenedligrwydd yn cael eu dychmygu a’u mynegi mewn llenyddiaeth Gymraeg i blant a bydd ei darlith yn trafod ‘The Possibilities of Children’s Literature’.

Gan edrych ymlaen at groesawu mynychwyr y Gyngres i Brifysgol Bangor, meddai’r Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:

Mae trefnu’r digwyddiad hwn wedi bod yn dasg anferthol, ond bu’n werth yr ymdrech, ac mae’n gosod Bangor lle y dylai fod – wrth galon cymuned ryngwladol o ysgoleigion Celtaidd’. 

Ac meddai Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor, Yr Athro Graham Upton:

‘Dathlwn y ffaith y bydd Bangor, am wythnos, yn cynnig croeso i gymuned mor ddisglair o ysgolheigion Celtaidd o bedwar ban byd’.

Ategwyd hyn gan Gadeirydd Pwyllgor Rhyngwladol y Gyngres Geltaidd, Yr Athro Patrick Sims-Williams, a fydd hefyd yn cyflwyno sesiwn ar wreiddiau’r Celtiaid, a ddywedodd:

‘Yn y Gyngres yn Glasgow yn 2015 dewiswyd Bangor ar gyfer 2019. Yn awr rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at y rhaglen amrwyiol a deniadol y mae'r Brifysgol wedi ei pharatoi.’

Am fwy o wybodaeth am y XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, yn cynnwys rhaglen lawn a manylion ynghylch llety, ewch i http://cyngresgeltaidd.bangor.ac.uk/

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2019