Session 27: Ystafell 3
Barddoniaeth y canol oesoedd: Cymru ac Iwerddon / Medieval Poetry: Wales and Ireland

Chair: Dylan Foster Evans

Agweddau ar y corff ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar

Bleddyn Owen Huws
Prifysgol Aberystwyth

Er bod trafodaethau niferus i’w cael yn Saesneg ar y corff mewn llenyddiaeth ganoloesol, prin fu’r trafod ar dystiolaeth llenyddiaeth Gymraeg. Oddi ar ganol y 1990au, cafwyd sawl ymdriniaeth yn Saesneg ar wahanol agweddau ar hanes diwylliannol y corff dynol, yn cwmpasu maes hanes crefydd, diwinyddiaeth a meddygaeth, yn ogystal â llenyddiaeth yn gyffredinol. Bydd y papur hwn megis yn agor cil y drws ar y maes drwy grybwyll rhai o’r agweddau ar y corff ym marddoniaeth Gymraeg y cyfnod rhwng tua 1350 a 1500. Er bod rhai disgrifiadau corfforol yn y cerddi yn amlycach na’i gilydd (yr enghraifft amlwg yw’r disgrifiadau o brydferthwch y corff benywaidd), canolbwyntir yn benodol yn y papur hwn ar ddwy thema arall ym marddoniaeth y cyfnod, sef (1) y corff materol, darfodedig a (2) y corff anafus ac archolledig.

Gan fod y ddwy thema’n gorgyffwrdd, bydd y drafodaeth yn trafod y cerddi sy’n cyfeirio’n benodol at henaint a’r corff ffaeledig ochr yn ochr â’r cerddi sy’n cyfeirio at anafiadau corfforol a’r moddion i’w hiacháu, ac yn crybwyll y defnydd metafforaidd o’r corff dynol. Yn y bôn, yr hyn a geir yw cyflwyniad cryno i’r ymateb dynol i’r corff mewn llenyddiaeth o safbwynt y Cymry, gyda golwg arbennig ar swyddogaeth geiriau mewn perthynas â’r corfforol neu’r anianol.

Marwnadau Madog ap Maredudd: agweddau cudd y beirdd

Shannon Rose Parker
Harvard University

Cyn marw Madog ap Maredudd, Tywysog Powys, ym 1160, cyflogwyd ganddo ddau fardd yn ei lys, sef Gwalchmai ap Meilyr a Cynddelw Brydydd Mawr. Canodd y ddau bedair marwnad iddo (un gan Walchmai a thair gan Gynddelw), ac mae'r rhain yn awgrymu bod y beirdd yn dra ymwybodol o’i gilydd. Pwrpas y papur hwn, drwy ddadansoddi iaith y cerddi yn fanwl, yw dangos beth oedd barn y beirdd ar ei gilydd, er iddynt guddio'r farn honno y tu ôl i gonfensiynau llenyddol. Bydd yr astudiaeth hon yn taflu goleuni ar ddiwylliant llys Madog a'r diwylliant barddol yn gyffredinol.

Golwg newydd ar addysg beirdd yng Nghymru ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol

Simon Rodway
Prifysgol Aberystwyth

Golwg newydd ar y dystiolaeth am addysg beirdd proffesiynol yng Nghymru ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol, gan edrych ar dystiolaeth am ysgolion, prentisiaeth, addysg mewn sefydliadau crefyddol etc. A ellir canfod olion addysg beirdd Celtaidd yr hen gyfnod yn y dystiolaeth ganoloesol?