Session 17: Ystafell 5
Cymru a'r Amerig / Wales and the Americas

Chair: T. Robin Chapman

Welsh Families in the Quaker Community of Early Pennsylvania

Celeste L. Andrews
Harvard University

The Quaker community that founded Philadelphia and the surrounding areas of Pennsylvania in the late seventeenth century included a sizable proportion of men and women who hailed from Wales and were Welsh-speaking. However, this population became assimilated into the more dominant English culture around them and today they are little remembered in the modern Quaker community and by historians. Perhaps their biggest legacy is in the names of two Quaker institutions of higher education, Bryn Mawr College and Haverford College, and in genealogical work.

This paper is an examination of the George family and the Foulke family, two prominent Welsh Quaker families living in Pennsylvania near the turn of the eighteenth century whose papers are preserved in the Swarthmore Friends Historical Library housed at Swarthmore College, Pennsylvania. I will discuss the “Welshness” of these families, and how their Welsh identity changed over the course of generations. To what extent did they maintain their use of the Welsh language and in what contexts? How, and to what extent, did they differentiate themselves from their English Quaker neighbors? And at what point did these differences evaporate? More broadly, I would like to bring this interesting and little-known subset of the Welsh diaspora to the attention of scholars working in Celtic Studies.

‘I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd’: Cysyniadau Beiblaidd a Diddymiaeth y Cymry Americanaidd

Gareth Hugh Evans-Jones
Prifysgol Bangor

Nod y papur hwn yw archwilio’r modd y defnyddiodd y Cymry yn America hanes a geir yn y Pumllyfr i ymateb i gaethwasiaeth y 19g., sef y Gaethglud ym Mabilon.

Dechreuir trwy ystyried yn gryno gyd-destun y cyfnod 1838-1868 yn yr Unol Daleithiau, a’r modd y tyfodd caethwasiaeth i fod yn bwnc mor llosg nes rhannu barn trigolion y Taleithiau. Wrth ganolbwyntio ar y Cymry a’u gweithgarwch llenyddol yn y wasg gyfnodol, ystyrir y modd y defnyddient hanes y Gaethglud ym Mabilon fel cymhariaeth â sefyllfa’r Affricaniaid yn eu ‘caethglud’ yng Ngogledd America. I’r diben hwn, cyfeirir at erthygl newyddiadurol, traethawd diwinyddol, ac ambell gerdd. Wedi ymdrin â’r defnydd a wnaed o hanes y Gaethglud ym Mabilon, trafodir y defnydd creadigol a wnaed o gysyniad y ‘gaethglud’ yn ei ystyr ehangaf. Drachefn, cyfeirir at ddetholiad o destunau i werthfawrogi arwyddocâd a dylanwad y cysyniad hwn wrth drafod y caethion cyfoes yn yr Unol Daleithiau.

Yn ogystal, crybwyllir y defnydd a wnaed o gysyniad y ‘Jiwbili’ (sy’n seiliedig ar Lefiticus 25), yn arbennig, felly, yng nghyd-destun y Gaethglud. Gyda hyn, nodir fel y daeth y ‘Jiwbili’ yn fath o arwyddair i’r genhadaeth ddiddymol wrth i’r Rhyfel Cartref ddynesu, a’r modd y daeth diwedd y Rhyfel â rhyddid y ‘jiwbili’ i’r ‘gaethglud fawr’ yn America.

Bwriad y papur, felly, yw darlunio dylanwad cysyniadau Beiblaidd penodol ar feddwl a gweithgarwch y Cymry Americanaidd yn ystod yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.

‘Yng nghysgod yr Anglo': profiadau trawsatlantig llenyddiaeth Gymraeg a Latino

Tudur Hallam
Prifysgol Abertawe

Saif y Cymry yn y Deyrnas Unedig, fel y saif Latinos a’r Latinas yn Unol Daleithiau’r Amerig, yng nghysgod diwylliant dominyddol y Saesneg, gan fod yn rhan ohono ond gan fod yn wahanol iddo hefyd, a chan fod yn her i’r sawl nad yw’n hoffi amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Yn y naill achos a’r llall, mae’r gwaith o adfer treftadaeth a datblygu gweithgarwch diwylliannol ym meysydd adloniant ac addysg yn rhan o symudiad gwleidyddol ehangach i adennill grym, a gellir canfod patrymau tebyg rhwng twf y dadeni llenyddol Cymraeg a’r un Chicano yn yr ugeinfed ganrif hyd at y sefyllfa wleidyddol bresennol. Wrth reswm, nid termau cytras yn y ddwy lenyddiaeth mo ‘Sais’ y Cymro a’r Gymraes ac ‘Anglo’ y Latino a’r Latina, ond yr un yw’r berthynas rym rhwng y mwyafrif a’r lleiafrif, rhwng y Saesneg a’r iaith arall. Os yw stori'r ddau arall yn wahanol i'w gilydd, tebyg yn aml yw’r tensiynau a'r profiadau wrth i un diwylliant gysgodi un arall, ac wrth i lenorion ddygymod â'r profiad hwn yn eu gwaith, weithiau mewn modd heriol, weithiau mewn modd cyfaddawdus. Edrychir yn y papur hwn ar rai o brif themâu llenyddiaeth Latino a Latina, gan gyfeirio at amrywiol gerddi a nofelau nodedig sy’n amlygu’r tyndra diwylliannol hwnnw sy’n ddigon cyfarwydd hefyd i’r ‘dynion a Brydeiniwyd’, chwedl Gerallt Lloyd Owen.