Session 109: Ystafell 1
Barddoniaeth ddiweddar o Gymru / Recent Welsh poetry

Chair: Elis Dafydd

‘Ydych chi wedi colli rhywbeth – dan yr eira?’: T. James Jones a’r ymgyrch i adfer Cymreictod Dylan Thomas

Non Mererid Jones
Prifysgol Bangor

Yn y papur hwn byddir yn craffu ar ddylanwad Dylan Thomas, yr enfant terrible o Abertawe sy’n gyfuniad o fwgan ac eicon yng Nghymru, ar yrfa farddol T. James Jones, y Prifardd a’r cyn-Archdderwydd o Gastellnewydd Emlyn. Y mae Dylan Thomas, yn anad neb, wedi bod yn ddylanwad mawr ar T. James Jones ers y 1950au. Dangosir yn y papur hwn ei fod yn cynnal deialogau â Thomas ar hyd yr yrfa. Ar ôl ennill ei Goron gyntaf (a honno’n Goron am gerdd Saesneg a gyfieithwyd o’r Gymraeg) yn 1957, aeth Jones ati yn ystod y 1960au i drosi Under Milk Wood i’r Gymraeg. Cyhoeddwyd ei drosiad, Dan y Wenallt, gan Wasg Gomer yn 1968. Fe’i hailargraffwyd yn 1992, 1996 a 2006 ac fe gyhoeddwyd fersiwn newydd yn 2014 fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, aeth T. James Jones rhagddo hefyd i drosi barddoniaeth a rhyddiaith enwocaf Dylan Thomas. Byddir yn dadlau yn y papur mai ei brif nod wrth gyfieithu gwaith y bardd Eingl-Gymreig hwn yw amlygu’r elfennau Cymreig, os nad Cymraeg, yn ei waith. Y mae fersiynau Cymraeg T. James Jones o waith Thomas yn amlwg wedi cael eu dylanwadu gan ei agenda fel cyfieithydd, sef ‘adfer’ Cymreictod y bardd hwn a throi ‘Dillon’ yn ‘Dylan’.

Angau ar ymweliad: Mihangel Morgan, T. H. Parry-Williams a rhyngdestunoldeb

Rhiannon Marks
Prifysgol Caerdydd (Cardiff)

Eir ati yn y papur hwn i ystyried goblygiadau ôl-foderniaeth yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg gan edrych yn benodol ar ffuglen fer y llenor toreithiog Mihangel Morgan (1955-). Rhoddir sylw penodol i Kate Roberts a’r Ystlum (2012), cyfrol chwareus sy’n troedio’r ffin rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’ wrth gynnig gwedd newydd ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Gan fod y gyfrol yn ei chyfanrwydd yn amlygu llu o gysylltiadau rhyngdestunol, eir ati yma i ddadansoddi’r gydberthynas rhwng testunau Mihangel Morgan a thestunau creadigol y llenor a’r ysgolhaig Syr T. H. Parry-Williams (1887-1975).

Canolbwyntir ar y stori ‘Ymwelydd Syr Thomas’ lle y darlunnir cyfarfyddiad y llenor o Ryd-Ddu â chymeriad sy’n honni mai ‘Angau’ yw ei enw. Er mor ddoniol yw’r ddeialog rhyngddynt ar un wedd, y mae’n arwyddocaol o safbwynt rhyngdestunol gan ei bod yn ymdrin â phynciau sy’n ganolog i waith Parry-Williams: marwolaeth a meidroldeb. Eir ati yn y papur, felly, i ystyried y modd y mae straeon o’r math hwn yn Kate Roberts a’r Ystlum yn dadadeiladu testunau modernaidd, ac eto ar yr un pryd yn ailddatgan eu bodolaeth a’u harwyddocâd. Rhydd hyn gyfle i ystyried y cysylltiadau rhwng moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a goblygiadau hynny i ddiwylliant lleiafrifol y Gymraeg.

Bywyd y bardd: y persona barddol mewn testunau cofiannol cyfoes

Llion Pryderi Roberts
Prifysgol Caerdydd

Yn Hydref 2018, gwelir cyhoeddi cyfrol gofiannol gan un o feirdd a chofianwyr amlycaf y cyfnod diweddar, Alan Llwyd. Mae’r gyfrol yn gweld golau dydd mewn blwyddyn sydd eisoes yn nodedig am gyhoeddi cnwd o gyfrolau barddoniaeth Gymraeg a nifer o gyfrolau cofiannol, yn gofiannau, hunangofiannau ac atgofiannau. Yn wir, gellir ystyried mai’r gyfrol Dim ond Llais yw’r cyfraniad diweddaraf i duedd nid anarwyddocaol ym maes ysgrifennu cofiannol Cymraeg diweddar i ddarlunio bywyd y bardd – ffigwr a chanddo statws nodedig yn ein llenyddiaeth ddoe a heddiw.

Nod y papur hwn fydd archwilio dehongliadau cysylltiedig â’r bardd, a’r pwyslais ar ddarlunio gwrthrychau o safbwynt eu persona barddol, ym maes ysgrifennu cofiannol cyfoes. Bydd y papur yn ystyried ystod o naratifau cofiannol y mae persona’r bardd yn greiddiol i’r portreadau – hunangofiant Gerallt Lloyd Owen (Fy Nghawl fy Hun, 1999), cofiant Alan Llwyd i Robert Williams Parry (Bob, 2013) a’r llên-gofiant diweddar a luniwyd gan Menna Elfyn (Cennad, 2018) – gan archwilio’r modd y defnyddir y persona hwn i gynnal a hyrwyddo dehongliadau penodol ar y portreadau hynny. Bydd y papur yn mynd ati i herio rhagdybiaethau poblogaidd parthed testunau cofiannol Cymraeg drwy ddadansoddi’r naratifau o safbwynt ystyriaethau megis y berthynas rhwng lluniwr testun a’i wrthrych, a’r berthynas rhwng awdurdod y testun cofiannol a’i oddrychedd neu ei greadigrwydd, ynghyd ag archwilio’r ffiniau rhwng ffurfiau cofiannol nodedig megis y cofiant a’r hunangofiant.