Sesiwn 87: Ystafell 3
Cerddi Dafydd ap Gwilym / The poetry of Dafydd ap Gwilym

Cadeirydd: Gruffydd Aled Williams

Amrywiadau testunol mewn traddodiad llafar: astudiaeth o destun 'Marwnad Angharad'

Nicolas Jacobs

Traddodiad llafar, i raddau helaeth, sydd y tu ôl i'r amrywiadau yn nhestun gwaith y Cywyddwyr. Y mae 'Marwnad Angharad' Dafydd ap Gwilym yn unigryw oherwydd bodolaeth testun ysgrifenedig cynnar iawn ohoni, ac er nad Dafydd (yn ôl pob tebyg) oedd y copiydd, y mae'r testun yn Llyfr Hendregadredd yn debygol o fod yn bur agos at y testun gwreiddiol, ac felly yn cynnig safon y gellir cloriannu'r amrywiadau diweddarach yn ei herbyn. Wrth wneud hyn, bwriedir dadansoddi'r amrywiadau sylweddol yn y testun a rhoi cynnig ar lunio dosbarthiad o'r prosesau sydd yn gyfrifol amdanynt. 

‘Fy nyn bychanigyn bach’: ieithwedd fachigol Dafydd ap Gwilym

Dafydd Johnston
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (CAWCS)

Bydd y papur hwn yn trafod y geiriau a’r ffurfiau morffolegol a ddefnyddir yng ngherddi Dafydd ap Gwilym i gyfleu bychander a distadledd. Mynegi dirmyg yw pwrpas y rhan fwyaf o’r rhain, ond mae naws rhai yn ddeublyg, gydag awgrym o anwyldeb hefyd, yn enwedig yn achos y gair bach ei hun. Mae nifer o’r geiriau hyn wedi eu cofnodi am y tro cyntaf yng ngwaith Dafydd, a dadleuir ei fod yn tynnu ar gywair llafar anffurfiol yn hyn o beth, cywair sy’n brigo i’r wyneb mewn canu dychan hefyd.

'The Little Hunchback?'

Jenny Rowland
An Coláiste Ollscoile, Baile Átha Cliath (UCD)

The most prominent love triangle in Dafydd ap Gwilym’s poetry involves the poet, Morfudd and her husband, known by the nickname Y Bwa Bach. Since the time of Iolo Morganwg and William Owen Pughe Y Bwa Bach, literally ‘the little bow’, has overwhelmingly been interpreted as ‘the little hunchback’, despite other possibilities. This paper will look at the various interpretations, ask why ‘the little hunchback’ has gained such currency in critical studies of Dafydd ap Gwilym, and argue that it may not be the most likely interpretation of the name.