Sesiwn 122: Ystafell 2
Manuscripts and collectors on the medieval March of Wales

Cadeirydd: Geraint Evans

This session looks at aspects of manuscript production and transmission on or near the March of Wales in the late Middle Ages. Together, the three papers give an indication of the importance of this region as the location of a vigorous book culture supported by both religious and lay patrons.

The book culture of the Cistercians on the March of Wales

James Clark
University of Exeter

The paper examines the Latin books and learning of some of the Cistercian houses on the Welsh border and south-east Wales, including Margam, Tintern, and Dore.

Texts and politics in fifteenth-century Marcher manuscripts

Helen Fulton
University of Bristol

This paper surveys the production of mainly fifteenth-century multilingual manuscripts on the March of Wales and considers the likely audiences for such texts in the context of the Wars of the Roses.

Hiwmor a hunaniaeth yn Llyfr Cyffredin Syr Siôn Prys

Dylan Foster Evans
Prifysgol Caerdydd

Mae Syr Siôn Prys (neu Syr John Pryse, 1501/2–55) yn ffigwr amlwg yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, nid lleiaf am iddo gyhoeddi’r gyfrol brint gyntaf yn yr iaith, Yn y lhyvyr hwn … (1546). Ef hefyd oedd awdur Historiae Britannicae Defensiop, amddiffyniad o’r traddodiad hanesyddol a seiliwyd ar waith Sieffre o Fynwy ac feirniadwyd gan Polydore Virgil. Cyhoeddwyd golygiad a chyfieithiad o’r testun hwnnw gan yr Athro Ceri Davies yn 2015, gan ddangos sut y defnyddiai Siôn Prys ystod o destunau cynnar Cymraeg er mwyn cryfhau ei ddadleuon ynghylch dilysrwydd yr hanes ‘Prydeinig’. At hynny, lluniodd Siôn Prys gasgliad helaeth o destunau llenyddol cyfoes a hynafol mewn llyfr lloffion neu lyfr amrywiaeth (Rhydychen, Coleg Balliol 353), llawysgrif nad yw eto wedi ei chyhoeddi. Bydd y papur hwn yn ystyried hunaniaeth Siôn Prys yng ngoleuni’r llawysgrif hon, sy’n mynegi ei berthynas â’i fro ei hun; â Chymru, Lloegr a’r frenhiniaeth; ac â’r gorffennol, a hynny mewn cyfnod o newid gwleidyddol (yn sgil Deddfau’r Cyfreithiau yng Nghymru, 1536 a 1542) a chrefyddol (yn sgil y Diwygiad Protestannaidd). Mae’r llyfr lloffion yn cynnwys casgliad bychan o naratifau ysgafn a masweddus sy’n rhoi cyfle arbennig i ystyried y modd y gallai hiwmor gyfrannu at lunio hunaniaethau cymysg ar ororau Cymru a Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg.